Alert Section

Caniatáu hypnoteiddio


Crynodeb o’r drwydded 

Os ydych chi’n dymuno dangos, arddangos neu berfformio gweithredoedd hypnoteiddio yn gyhoeddus mae’n rhaid i chi gael caniatâd gan yr awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr. 

Mae’n rhaid i chi gydymffurfio ag unrhyw amodau yn gysylltiedig âg awdurdodi’r perfformiad. 

Crynodeb o’r rheoliadau

Crynodeb o’r rheoliadau sy’n berthnasol i’r drwydded hon (Deddf Hypnoteiddio 1952) (ffenestr newydd)

A fydd cydsyniad mud yn berthnasol?

Bydd.  Mae hyn yn golygu y cewch chi weithredu fel petai eich cais wedi bod yn llwyddiannus os nad ydych chi wedi clywed oddi wrth yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod prosesu’r cais. 

Ffioedd a thalu

Mae’r ffi(oedd) ar gyfer y cais hwn fel a ganlyn: £65

Gwneud cais ar-lein 

Cais am ganiatâd i ddangos, arddangos neu gynnal perfformiad hypnoteiddio (ffenestr newydd)

Gwneud iawn am gais a fethodd 

Cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol fel man cychwyn.

Gwneud iawn i’r deilydd trwydded 

Cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol fel man cychwyn.

Cwyn gan ddefnyddiwr 

Byddem bob amser yn eich cynghori, os oes gennych chi unrhyw fater rydych chi am gwyno amdano, y dylech chi gysylltu â’r masnachwr yn gyntaf – trwy lythyr (gyda phrawf cyflwyno’r llythyr) yn fwyaf dymunol.  Os nad ydy hynny wedi gweithio, ac os ydych chi yn y Deyrnas Unedig, fe gewch chi gyngor gan Cyngor ar bopeth (ffenestr newydd). Os ydych chi y tu allan i’r Deyrnas Unedig cysylltwch â’r rhwydwaith Canolfannau Defnyddwyr Ewropeaidd - UK European Consumer Centre (ffenestr newydd).

Manylion cyswllt

Adran Trwyddedu, Diogelu’r Cyhoedd, Cyngor Sir y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, CH7 6NF

Rhif ffôn: 01352 703030

E-bost: trwyddedu@siryfflint.gov.uk

Cymdeithasau/mudiadau’r diwydiant

Agents Association (ffenestr newydd)

Equity (ffenestr newydd)

National Entertainment Agents Council (ffenestr newydd)

Society for All Artists (SAA) (ffenestr newydd)

Mewn partneriaeth â EUGO