Alert Section

Fforwm Landlordiaid Sir y Fflint


Cyfarfod pwysig o Fforwm Landlordiaid Sir y Fflint cyn newidiadau mawr i’r gyfraith yng Nghymru

Mae Cyngor Sir y Fflint, mewn partneriaeth â’r Gymdeithas Landlordiaid Preswyl Genedlaethol (NRLA), yn cynnal Fforwm Arbennig i Landlordiaid ddydd Iau 16 Mehefin 2022 rhwng 6pm a 7.30pm.   

Fe fydd y Fforwm yn canolbwyntio ar newidiadau a fydd yn dod yn gyfraith o 15 Gorffennaf 2022 o ganlyniad i gyflwyno Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016.  Fe fydd y newidiadau hyn yn effeithio ar bob landlord yng Nghymru ac mae’n hanfodol bod pob landlord yn ymwybodol o’r camau mae angen iddynt eu cymryd.  Dyma weminar na ddylech chi ei cholli!

Rydym wrth ein bodd y bydd pensaer Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, Simon White, Pennaeth Strategaeth Tai, Llywodraeth Cymru, yn cyflwyno trosolwg o’r Ddeddf a’r newidiadau sylweddol y bydd y Ddeddf yn eu cyflwyno. 

Fel bonws ychwanegol, bydd Simon hefyd ar gael i ateb unrhyw gwestiynau. 

Rhaglen 

• Croeso – Sandra Towers, Cynrychiolydd NRLA Gogledd Cymru a Martin Cooil, Rheolwr Gwasanaeth Tai ac Atal, Cyngor Sir y Fflint

• Diweddariadau Sector Rhentu Preifat Cyngor Sir y Fflint – Martin Cooil a Marian Davies, Tîm Iechyd yr Amgylchedd 

• Araith Gyweirnod: Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, Simon White, Pennaeth Strategaeth Tai, Llywodraeth Cymru

• Cwestiynau i’r panel

Mae’r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim i bawb – aelodau a rhai nad ydynt yn aelodau. I gofrestru, dilynwch y cyfarwyddiadau naill ai i gofrestru i’ch cyfrif aelodaeth NRLA neu i greu cyfrif rhad ac am ddim i westeion er mwyn cofrestru a mynychu’r cyfarfod yn unol â’r ddolen isod:

https://www.nrla.org.uk/events/meetings/5014 

Mae angen i unrhyw un sy’n dymuno mynychu gofrestru erbyn 5.30pm ar 16 Mehefin 2022. Mae hyn er mwyn sicrhau bod modd i NRLA anfon e-bost at bobl sy'n mynychu gyda dolen i’r fforwm. 

Caiff eich dolen i fynychu a’ch cadarnhad cofrestru eu hanfon atoch dros e-bost ond gallwch hefyd gael mynediad i’ch dolen ymuno yn eich Dangosfwrdd Hyfforddiant a Digwyddiadau yn eich cyfrif aelodaeth neu westai, ar ôl i chi gofrestru. 

Fe fydd y ddolen yn ymddangos 30 munud cyn amser dechrau’r cyfarfod.

Ar ôl i chi fynychu’r cyfarfod, bydd DPP (Datblygiad Proffesiynol Parhaus) yn cael ei ychwanegu’n awtomatig at eich cyfrif lle bo’n berthnasol. 

Os byddwch chi’n cael unrhyw broblemau wrth gofrestru, cysylltwch â Sandra Towers dros e-bost, sandra.towers@nrla.org.uk, neu cysylltwch â thîm gweinyddol NRLA ar 0300 131 6400. 

Os hoffech ragor o wybodaeth am y fforwm Landlordiaid neu er mwyn anfon unrhyw gwestiynau am unrhyw bwnc perthnasol, anfonwch e-bost at: Landlord.Support@flintshire.gov.uk.

Edrychwn ymlaen at eich gweld.