Alert Section

Trwydded safle llety i anifeiliaid


Crynodeb o’r drwydded

Bydd angen trwydded gan yr awdurdod lleol arnoch chi i gynnal busnes llety i gathod neu gŵn.  Nodir nifer y cathod neu’r cŵn y cewch eu lletya ar y drwydded, ynghyd ag amodau penodol eraill. 

Gall yr awdurdod lleol awdurdodi swyddog, milfeddyg neu ymarferwr archwilio safle trwyddedig o’r fath. 

Meini prawf cymhwysedd 

Ni chaiff ymgeisydd fod wedi’i wahardd o wneud unrhyw un o’r isod ar adeg cyflwyno’r cais:

  • Cynnal llety preswyl i anifeiliaid  
  • Cadw siop anifeiliaid anwedd dan y Ddeddf Anifeiliaid Anwes 1951
  • Cadw anifeiliaid dan y Ddeddf Gwarchod Anifeiliaid (Diwygio) 1954
  • Bod yn berchen ar, cadw, ymwneud â chadw neu â’r hawl i reoli neu ddylanwadu ar gadw anifeiliaid, delio mewn anifeiliaid neu gludo neu ymwneud â chludo anifeiliaid dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 

Crynodeb o’r rheoliadau

Crynodeb o’r rheoliadau sy’n berthnasol i’r drwydded hon (ffenestr newydd)

Proses gwerthuso cais

Bydd ffioedd yn daladwy am wneud cais, a gellir rhoi amodau ar y drwydded. 

Bydd y meini prawf isod yn cael eu hystyried wrth werthuso’r cais: 

  • Y bydd yr anifeiliaid yn cael eu cadw mewn llety addas bob amser.  Mae hyn yn ystyried maint ac adeiladwaith y llety, nifer yr anifeiliaid i’w cartrefu yno, a’r lefelau glendid, tymheredd, goleuo ac awyru. 
  • Y bydd bwyd, diod a deunyddiau gwely addas yn cael eu darparu, a bod yr anifeiliaid yn cael sylw rheolaidd ac yn cael ymarfer corfforol.
  • Y cyflwynir camau i atal a rheoli lledaeniaid clefydau ymhlith yr anifeiliaid, a bod cyfleusterau arwahanu yn bodoli. 
  • Bod amddiffyn digonol i’r anifeiliaid yn achos tân neu argyfwng arall. 
  • Y cedwir cofrestr.  Dylai’r gofrestr gynnwys disgrifiad o bob anifail yn y llety, dyddiad cyrraedd a gadael ac enw a chyfeiriad eu perchennog.  Dylai’r gofrestr fod ar gael i swyddog awdurdod lleol, milfeddyg neu ymarferydd edrych arni ar unrhyw adeg. 

A fydd cydsyniad mud yn berthnasol? 

Bydd.  Mae hyn yn golygu y cewch chi weithredu fel petai eich cais wedi bod yn llwyddiannus os nad ydych chi wedi clywed oddi wrth yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod prosesu’r cais. 

Ffioedd a thalu

Mae’r ffi (oedd) ar gyfer y cais hwn fel a ganlyn:
Lletya Anifeiliaid (Cynelau/Llety cathod) £187.58
Lletya Anifeiliaid Gartref £146.74

Gwneud cais ar-lein

Cais i weithredu llety i anifeiliaid (ffenestr newydd)

Ein hysbysu am unrhyw newid i’ch amgylchiadau presennol (ffenestr newydd)

Adnewyddu eich trwydded i weithredu llety i anifeiliaid (ffenestr newydd)

Gwneud iawn am gais a fethodd 

Cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol fel man cychwyn.

Gall unrhyw ymgeisydd y gwrthodir rhoi trwydded iddynt gyflwyno apêl i’w llys ynadon lleol.

Gwneud iawn i’r deilydd trwydded 

Cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol fel man cychwyn.

Gall unrhyw ddeilydd trwydded sy’n dymuno apelio yn erbyn amod ar eu trwydded gyflwyno apêl i’w llys ynadon lleol.

Cwyn gan ddefnyddiwr 

Byddem bob amser yn eich cynghori, os oes gennych chi unrhyw fater rydych chi am gwyno amdano, y dylech chi gysylltu â’r masnachwr yn gyntaf – trwy lythyr (gyda phrawf cyflwyno’r llythyr) yn fwyaf dymunol.  Os nad ydy hynny wedi gweithio, ac os ydych chi yn y Deyrnas Unedig, fe gewch chi gyngor gan Cyngor ar bopeth (ffenestr newydd). Os ydych chi y tu allan i’r Deyrnas Unedig cysylltwch â’r rhwydwaith Canolfannau Defnyddwyr Ewropeaidd - UK European Consumer Centre (ffenestr newydd).

Manylion cyswllt

Adran Trwyddedu, Diogelu’r Cyhoedd, Cyngor Sir y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, CH7 6NF

Rhif ffôn: 01352 703030

E-bost: trwyddedu@siryfflint.gov.uk

Cymdeithasau / mudiadau’r diwydiant 

Pet Care Trust (PCT) (ffenestr newydd)

Royal College of Veterinary Surgeons (ffenestr newydd)

Mewn partneriaeth â EUGO