Alert Section

Eiddo Masnachol


P’un ai ydych yn chwilio am eiddo diwydiannol neu fasnachol, uned i fusnes newydd, gofod swyddfa neu siop, gall Cyngor Sir y Fflint gynnig: 

  • Rhenti cystadleuol 
  • Cyfnodau di-rent* 
  • Tîm o weithwyr proffesiynol sy’n arbenigo mewn eiddo er mwyn eich cefnogi chi drwy’r broses ymgeisio a rheoli o ddydd i ddydd.
  • Staff Canolfan Fusnes dynodedig
  • Gofod swyddfa rhith ac o bell**
  • Gofod cyfarfod a llogi ystafell** 
  • Cyfleusterau ystafell gynadledda**

Wedi’u lleoli ar draws Sir y Fflint, yn agos at gysylltiadau ffordd a rheilffordd, efallai y bydd ein heiddo masnachol i’r dim i chi.  

GWEITHDAI BYCHAIN

Cyfeirir at yr unedau hyn fel unedau â chytundebau ‘a ellir mynd i mewn iddynt a dod allan ohonynt yn hawdd’ ac maent yn cael eu gosod ar Gytundeb Tenantiaeth Safonol sydd yn cynnig y fantais o gyfnod terfynu byr (3 mis) i denantiaid.  

Mae’n bosibl bod unedau gweithdy bach ar gael yn y lleoliadau canlynol:

Gweithdai Pinfold, Ystâd Ddiwydiannol Pinfold, Bwcle, CH7 3PL

Wedi’u lleoli ar ystâd ddiwydiannol sefydledig hanner ffordd rhwng Bwcle a’r A494, mae gweithdai Pinfold mewn lleoliad delfrydol er mwyn cyrraedd Gwibffordd yr A55 yn hawdd ac yn gyflym. 

Mae’r unedau i gyd yn hunangynhwysol gyda chyfleusterau toiled eu hunain ac, ar wahân i’r uned leiaf, mae pob un yn cynnwys mynedfa i gerbydau. 

Mae’r ystâd yn cynnwys cyflenwad trydan tri cham.  Mae pob ymgeisydd yn gyfrifol am wirio bod y cyflenwad trydan i’r uned y mae’n ei ffafrio yn ddigonol i ddiwallu anghenion ei fusnes.

Gweithgareddau nad ydynt yn cael eu caniatáu:  Ni chaniateir gwneud atgyweiriadau i geir ar yr ystâd hon.

Yn daladwy: Rhent, tâl gwasanaeth, cyfraddau, blaendal a ffioedd

Ystâd Ddiwydiannol Dock Road, Dock Road, Cei Connah, CH5 4DS

Wedi’u lleoli ar ystâd ddiwydiannol sefydledig, mae’r unedau hyn yn agos at Bont Sir y Fflint a Pharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy. 

Mae’r unedau hyn yn addas er dibenion diwydiannol a storio yn amodol ar gael y caniatâd cynllunio angenrheidiol.

Yn daladwy:   Rhent (yn cynnwys tâl gwasanaeth), cyfraddau, trydan (mesuryddion ategol), blaendal a ffioedd.

Gweithdy Garden City, Sealand Avenue, Garden City, CH5 2HW

Dyma ystâd ddeniadol, sefydledig, sydd wedi’i lleoli’n gyfleus o fewn cyrraedd yr A55 a’r A548 yn gwasanaethu ardaloedd Gogledd Cymru, Cilgwri a Chaer. 

Mae’r gweithdai i gyd yn hunangynhwysol gyda chyfleusterau toiled ac mae pob un yn cynnwys mynedfa bersonol ac i gerbydau. 

Mae rhai unedau yn cynnwys cyflenwad trydan tri cham.  Mae pob ymgeisydd yn gyfrifol am wirio bod y cyflenwad trydan i’r uned y mae’n ei ffafrio yn ddigonol i ddiwallu anghenion ei fusnes.

Yn daladwy: Rhent, tâl gwasanaeth, cyfraddau, blaendal a ffioedd.

Gweithdai Stryd Ewart, Ystâd Ddiwydiannol Stryd Ewart, CH4 0BL

Wedi’u lleoli mewn ardal breswyl yn bennaf, mae’r gweithdai hyn yn agos at brif ffordd Brychdyn i Gaer (A5104). 

Bu’r adeilad hwn unwaith yn ysgol yn ystod Oes Fictoria ond erbyn heddiw mae’r adeilad unllawr, sydd wedi’i wneud o frics ac iddo do llechi, yn cynnwys chwech o unedau hunangynhwysol sy’n darparu gofod syml. 

Er nad oes gan yr unedau unigol fynedfeydd i gerbydau’n uniongyrchol, mae maes parcio wedi'i amgáu ar gael ar hen fuarth yr ysgol.   

Gweithgareddau nad ydynt yn cael eu caniatáu:  Ni chaniateir storio agored, er mae’n bosib y caniateir gosod cynwysyddion yn amodol ar gael y caniatâd cynllunio angenrheidiol a chytundeb ymlaen llaw. 

Yn daladwy:  Rhent (yn cynnwys tâl gwasanaeth), cyfraddau, blaendal a ffioedd.  

 

UNEDAU MASNACHOL MWY

Mae’r unedau masnachol mwy hyn, sydd ar brydles am gyfnodau hirach, ar gael i’w gosod am gyfnodau penodol, er enghraifft 2 flynedd, 5 mlynedd neu fwy).    Ar delerau atgyweirio ac yswirio llawn, tenantiaid sydd yn gyfrifol am dalu’r ffioedd cyfreithiol rhesymol sydd yn gysylltiedig â’r paratoadau. 

Mae unedau masnachol mwy ar gael yn y lleoliadau canlynol: 

Ystâd Ddiwydiannol Parc Aber, Ffordd Aber, Y Fflint, CH6 5EX

Wedi’i lleoli ger canol tref Y Fflint, mae’r ystâd hon o 14 o unedau yn agos at ffyrdd ac yn hawdd i’w chyrraedd- i’r gorllewin i Gaergybi / Gogledd Cymru ac i’r dwyrain dros Bont Sir y Fflint at yr M56 a’r rhwydwaith traffordd i Fanceinion, Lerpwl a Chilgwri, yn ogystal â Gwibffordd Gogledd Cymru'r A55.

Yn daladwy:  Rhent, tâl gwasanaeth, cyfraddau, blaendal a ffioedd.  

Ystâd Ddiwydiannol Parc y Castell, Y Fflint, CH6 5XA

Wedi’i lleoli ger yr A548 Ffordd Treffynnon, mae ystâd ddiwydiannol Parc y Castell yn agos at ffyrdd ac yn hawdd i’w chyrraedd- i’r gorllewin i Gaergybi / Gogledd Cymru ac i’r dwyrain dros Bont Sir y Fflint at yr M56 a’r rhwydwaith traffordd i Fanceinion, Lerpwl a Chilgwri, yn ogystal â Gwibffordd Gogledd Cymru'r A55.

Yn daladwy: Rhent, tâl gwasanaeth, cyfraddau, blaendal a ffioedd.

Parc Busnes Expressway, Ffordd yr Orsaf, Queensferry, CH5 2TF

Mae’r Parc Busnes mewn lleoliad delfrydol gyda mynediad uniongyrchol at yr A550 – dechrau Gwibffordd Gogledd Cymru – mae’r unedau hefyd o fewn cyrraedd gweddill Cymru, Caer a Chilgwri, yn ogystal â’r rhwydwaith traffordd cenedlaethol, ar hyd yr M56 Manceinion a’r M53 Lerpwl. 

Mae depo'r Post Brenhinol hefyd wedi’i leoli’n agos at y Parc sydd yn golygu ei fod yn lleoliad ardderchog ar gyfer dosbarthu.

Yn daladwy: Rhent, tâl gwasanaeth, cyfraddau, blaendal a ffioedd.

Ystâd Ddiwydiannol Parc Rowleys, Shotton, CH5 1QJ

Mae’r Ystâd Ddiwydiannol wedi’i lleoli ger Gorllewin Ffordd Caer (ffordd arfordir Gogledd Cymru) ger y gyffordd â Gwibffordd yr A55, mae’n rhan o ardal sy’n datblygu’n gyflym a sydd erbyn hyn yn cynnwys The Range, Pizza Hut, Lidl ac amrywiaeth o gwmnïau gwasanaeth diwydiannol. Mae’r ardal o fewn cyrraedd Cymru, Caer a Chilgwri, yn ogystal â’r rhwydwaith traffordd cenedlaethol, ar hyd yr M56 Manceinion, yr M53 Lerpwl a Chilgwri.

Yn daladwy: Rhent, tâl gwasanaeth, cyfraddau, blaendal a ffioedd.

 

SIOPAU

Gall Sir y Fflint gynnig nifer o siopau ar brydles, o fewn neu ar gyrion 3 lleoliad trefol.

Stryd yr Eglwys, Y Fflint, CH6 5AD

Mae yma res o siopau bychain wedi’u lleoli yng nghanol y dref ar dop Stryd yr Eglwys yn agos at fasnachwyr cenedlaethol megis Boots, Specsavers a Sayers a nifer o fasnachwyr annibynnol. 

Mae gan y siopau system ffordd ‘un ffordd’ gyda digonedd o leoedd parcio o fewn pellter cerdded ac ar hyd Stryd Yr Eglwys. 

Cynigir yr eiddo am isafswm o 2 flynedd a'r tenantiaid sydd yn gyfrifol am wneud yr holl waith atgyweirio ac addurno i du mewn a blaen y siop.  Y Landlord sydd yn gyfrifol am ofalu am y tu allan ac mae mannau cymunedol yn destun tâl gwasanaeth.

Yn daladwy: Rhent, tâl gwasanaeth, cyfraddau, blaendal a ffioedd.

Bryn y Gwynt, Pen y Maes, Treffynnon, CH8 7BX

Wedi’u lleol ger blaengwrt i gerddwyr gyda lleoedd parcio cyhoeddus cyfagos, mae gan y siopau hyn ardal gymunedol i’r cefn a fflatiau ar wahân uwchben. 

Cyfrifoldeb y tenantiaid yw gwneud atgyweiriadau mewnol ac addurno allanol a thalu  tâl gwasanaeth er mwyn cyfrannu at waith cynnal a chadw’r prif adeilad a’r ardal o’i amgylch a’r premiwm yswiriant adeiladu blynyddol.

Yn daladwy: Rhent, tâl gwasanaeth, cyfraddau, blaendal a ffioedd.

Maes Pennant, Mostyn CH8 9NX

Mae’r siop a fflat, sydd wedi’u cyfuno a’u lleoli gyda rhes o siopau bychain sydd yn gwasanaethu’r gymuned breswyl leol, yn cael eu gosod ar brydles atgyweirio ac yswirio llawn ar gyfer eiddo masnachol am isafswm o 2 flynedd.

Gweithgareddau nad ydynt yn cael eu caniatáu:  NI chaniateir isosod y fflat. 

Yn daladwy: Rhent, cyfraddau, treth y cyngor, blaendal a ffioedd.

 

CANOLFANNAU BUSNES SIR Y FFLINT

Mae Canolfannau Busnes Maes Glas a Glannau Dyfrdwy yn cynnwys swyddfeydd a gweithdai gwarchodol sy’n amrywio o ran maint o unedau bach i ofodau gwaith diwydiannol mawr. Mae’r Canolfannau wedi’u dylunio i annog pobl i ddechrau busnesau newydd, datblygu twf a chynaliadwyedd drwy gymorth cyfrinachol sydd wedi’i deilwra gan y Gwasanaeth Datblygu Busnes. 

Rydym yn cynnig eiddo arloesol, di-drafferth gan ddarparu swyddfeydd bychain, gweithdai a swyddfeydd a wasanaethir yn llawn i’w gosod gyda thelerau hyblyg. Gellir terfynu contract drwy gyflwyno 1 mis o rybudd. 

Gall Canolfannau Busnes Sir y Fflint gyfeirio at wasanaethau partner a Chyngor priodol eraill yn cynnwys y tîm Cymorth I Fusnesau. 

Mae gwasanaethau a chyfleusterau eraill y Ganolfan Fusnes yn cynnwys:

  • Gwasanaeth busnes ‘siop un alwad’ 
  • Gofod swyddfa a gweithdy a reolir 
  • Telerau cytundeb a ellir mynd i mewn a dod allan ohonynt yn hawdd 
  • Gwasanaethau gweinyddol a derbynfa
  • Amgylcheddau proffesiynol 
  • Cyfleusterau ystafell gynhadledd, hyfforddiant a chyfarfod, yn cynnwys WI-FI
  • Cyfleusterau arlwyo ar y safle 
  • Digonedd o leoedd parcio gyda rhwydweithiau cludiant cyhoeddus gerllaw

Canolfan Fusnes Glannau Dyfrdwy

Mae’r Ganolfan Fusnes yn darparu amrywiaeth ardderchog o ofodau swyddfa a gweithdai o feintiau amrywiol, sydd ar gael i’w gosod ar delerau hyblyg sy’n ei gwneud yn hawdd i chi ganfod y gofod delfrydol ar gyfer eich busnes. Rydym yn eich trin fel cwsmer, nid fel tenant. 
Mae gan Ganolfan Fusnes Glannau Dyfrdwy amrywiaeth o ystafelloedd bach, canolig a mawr sy’n ddelfrydol ar gyfer cynnal cyfweliadau, sesiynau hyfforddiant neu gynadleddau gyda chyfleusterau arlwyo ar y safle a lleoedd parcio i ymwelwyr. 
Ad-delir costau cyfleustodau mewn swyddfeydd yn seiliedig ar ddefnydd gwirioneddol, rhaid i weithdai drefnu â’u darparwr cyfleustodau.
Mae’r Ganolfan, sydd wedi’i lleoli ger Gorllewin Ffordd Caer (ffordd arfordir Gogledd Cymru) ger y gyffordd â Gwibffordd yr A55, yn rhan o ardal sy’n datblygu’n gyflym ac sydd erbyn hyn yn cynnwys The Range, Pizza Hut, Lidl ac amrywiaeth o gwmnïau gwasanaeth diwydiannol. Mae’r ardal o fewn cyrraedd Cymru, Caer a Chilgwri, yn ogystal â’r rhwydwaith priffyrdd cenedlaethol, ar hyd yr M56 Manceinion a’r M53 Lerpwl a Chilgwri.

Yn daladwy: Rhent, tâl gwasanaeth, cyfleustodau a blaendal.

Canolfan Fusnes Maes Glas

Mae’r ganolfan yn darparu gofodau swyddfa a gweithdai o feintiau amrywiol gyda thelerau cytundeb a ellir mynd i mewn iddynt a dod allan ohonynt yn hawdd, sydd yn ddelfrydol ar gyfer busnesau newydd a phresennol. 

Caiff y ganolfan ei rheoli gan dîm eiddo ar y safle sydd yn sicrhau y cynhelir amgylchedd proffesiynol i denantiaid ac ymwelwyr ar bob adeg. 

Mae Canolfan Fusnes Maes Glas yn cynnwys ystafelloedd cyfarfod, hyfforddiant a chynhadledd o feintiau gwahanol, sydd yn ddelfrydol ar gyfer cyfweliadau, sesiynau hyfforddiant, cyfarfodydd â chleientiaid ac ati. Mae hefyd yn cynnwys cyfleusterau arlwyo ar y safle a digonedd o leoedd parcio i ymwelwyr. 

Mae’r swyddfeydd yn cynnwys cyfleustodau ac mae gweithdai yn cynnwys mesuryddion ategol a bydd cyfleustodau yn cael eu had-dalu yn ôl defnydd gwirioneddol. 

Mae Canolfan Fusnes Maes Glas wedi’i lleoli’n strategol ger yr A548 prif ffordd Gogledd Cymru, 16 o filltiroedd i’r gogledd-ddwyrain o Gaer a gyda chysylltiad parod at yr A55. Mae Dociau Mostyn yn agos (3 milltir i ffwrdd) ac mae’r A548 hefyd yn cysylltu â Pharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy drwy ail Groesfan Dyfrdwy. Mae’r M56 a’r rhwydwaith traffordd cenedlaethol a meysydd awyr Lerpwl a Manceinion o fewn pellter gyrru hawdd. 

Mae’r ganolfan wedi’i lleoli o fewn pellter cerdded i Abaty Dinas Basing a Pharc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas ac nid yw ond taith fer yn y car i Ffynnon Santes Gwenffrewi a Thref Farchnad Treffynnon.

Yn daladwy: Rhent, tâl gwasanaeth, cyfleustodau (gweithdai yn unig) a blaendal.

 

CYSYLLTWCH Â NI

Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth am argaeledd presennol unrhyw un o’n hunedau masnachol, cysylltwch â ni:

Canolfannau Busnes

Cyffredinol: 01352 703041

Glannau Dyfrdwy: 01352 703060

Maes Glas: 01352 703055

Unedau Masnachol a Siopau

01352 703100

E-bost: ValuationandEstates@flintshire.gov.uk

 

*yn destun amodau mewn lleoliadau penodol 

**Canolfannau Busnes Maes Glas a Glannau Dyfrdwy