Alert Section

Arolygiadau a sgoriau hylendid – gwybodaeth i fusnesau bwyd


Rhaid i fusnesau bwyd gofrestru â’r Cyngor cyn y gallant weithredu a chânt eu harchwilio i sicrhau eu bod yn dilyn gweithdrefnau diogel.

Y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd - newidiadau pwysig

Daw Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 a rheoliadau cysylltiedig i rym ym mis Tachwedd 2013. Mae’r Ddeddf yn sefydlu cynllun sgorio hylendid bwyd gorfodol i Gymru a fydd yn disodli’r cynllun sy’n cael ei weithredu gan awdurdodau lleol a’r Asiantaeth Safonau Bwyd ar hyn o bryd. Bydd y cynllun newydd yn helpu defnyddwyr i ddewis ble i fwyta neu siopa am fwyd drwy roi gwybodaeth iddynt am safonau hylendid mewn bwytai, tafarndai, caffis, siopau tecawê, gwestai ac ati, yn ogystal ag archfarchnadoedd a siopau bwyd eraill.

Fel rhywun sydd â busnes bwyd, bydd gofyn i chi fod yn ymwybodol o rai newidiadau pwysig y mae’r ddeddfwriaeth yn eu cyflwyno. Mae’r rhain wedi’u crynhoi yn y daflen hon. Mae’n dod yn haws adnabod hylendid bwyd da yng Nghymru 

Sut mae’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yn gweithio?

Mae Cyngor Sir y Fflint yn gweithredu’r cynllun yn unol â gofynion Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013. Datblygwyd y cynllun gorfodol hwn gan Lywodraeth Cymru mewn cydweithrediad â’r Asiantaeth Safonau Bwyd ac awdurdodau lleol. Mae’n seiliedig ar y cynllun anstatudol sydd wedi bod ar waith yn Cyngor Sir y Fflint ers mis Hydref 2010, ac nid yw’r ffordd y caiff busnesau eu sgorio wedi newid. Bydd yn rhoi gwybodaeth i chi am safonau hylendid safleoedd bwyd ar yr adeg y cânt eu harolygu gan un o’n swyddogion diogelwch bwyd i wirio eu bod yn cydymffurfio â’r gofynion hylendid bwyd cyfreithiol. Mae’r sgôr hylendid a roddir yn adlewyrchu beth mae’r swyddog yn ei ganfod ar y pryd.   

Cewch ragor o wybodaeth am y sgoriau, am yr hyn sy’n cael ei archwilio a rhagor ar dudalen Gwefan Asiantaeth Safonau Bwyd 

Ble fydd y sgôr hylendid yn cael ei harddangos?

Cael hyd i sgôr safle bwyd ar-lein 

Mae busnesau yn cael sticer i ddangos eu sgôr. O 28 Tachwedd 2013, bydd yn rhaid i’r busnesau hynny sy’n cael sticer ‘newydd’ y CSHB sy’n cynnwys logo Llywodraeth Cymru ei arddangos mewn lle amlwg – megis prif ddrws, fynedfa neu ffenestr y busnes, a rhoi gwybodaeth am eu sgôr ar lafar os bydd rhywun yn holi.

Mae gan awdurdodau lleol bwerau i gosbi busnesau os nad ydynt yn arddangos eu sticeri, os ydynt yn arddangos sticeri anghywir neu os ydynt yn camarwain cwsmeriaid am eu sgôr hylendid. Gallant ddefnyddio hysbysiadau cosb benodedig i wneud hyn. Os bydd busnes yn cael hysbysiad o’r fath gallant ddewis rhwng talu £200 o fewn 28 diwrnod o’r adeg y caiff y gosb ei dyfarnu, neu dalu cosb lai o £150 os ydynt yn talu o fewn 14 diwrnod. Mae Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 hefyd yn caniatáu ar gyfer erlyn drwy Lys yr Ynadon lle bo angen.

Beth all busnesau wneud i wella os oes gofyn iddynt wneud hynny?

Lle nad yw busnes yn cael y sgôr uchaf, bydd y swyddog diogelwch bwyd yn egluro i’r sawl sy’n rheoli’r busnes neu sy’n berchen arno pa welliannau sydd eu hangen.

Er mwyn gofalu bod y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yn deg i fusnesau, mae’n cynnwys nifer o ragofalon, sef  proses apelio, hawl i ymateb a chyfle i ofyn am ymweliad arall ar ôl cwblhau gwelliannau. Mae gwybodaeth am y rhain isod, ynghyd â’n ffurflenni.

Apelio

Gallwch apelio yn erbyn sgôr os nad ydych yn credo ei bod yn adlewyrchiad teg o’r amodau hylendid adeg yr arolygiad, neu os na chafodd meini prawf y sgôr eu rhoi ar waith yn gywir. Mae’n rhaid i chi gyflwyno apêl ysgrifenedig ar y ffurflen apelio safonol, a’i chyflwyno i’r awdurdod lleol o fewn 21 diwrnod i’r dyddiad y cawsoch wybod am eich sgôr. Bydd yr apêl yn cael ei hystyried gan un o swyddogion yr awdurdod nad oedd yn rhan o’r asesiad gwreiddiol o’r sgôr sy’n destun yr apêl. Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol benderfynu a rhoi gwybod i chi am y canlyniad o fewn 21 diwrnod wedi i’r apêl ddod i law. Os ydych chi’n apelio, bydd yn rhaid i chi arddangos y sticer perthnasol ar ôl i’r broses ddod i ben.

CSHB Ffurflen Apelio 

Ail-sgorio

Gallwch ofyn i’r awdurdod lleol gynnal ymweliad cyn dyddiad yr arolygiad hylendid bwyd nesaf i wirio unrhyw welliannau a rhoi sgôr newydd os yw’n briodol. Mae’n rhaid i chi gyflwyno cais ysgrifenedig ar y ffurflen ailymweliad safonol gan nodi beth ydych chi wedi’i wneud I wella’r safonau hylendid. Mae’n rhaid i chi barhau i arddangos eich sticer hylendid presennol, a hynny o’r adeg pan fyddwch chi’n gwneud cais ail-sgorio hyd nes y byddwch yn cael eich hysbysu am y canlyniad. Bydd yr ymweliad ail-sgorio yn cael ei gynnal o fewn tri mis i’r adeg y byddwch yn cyflwyno’r cais, ac ni chewch wybod ymlaen llaw am ddyddiad ac amser yr ymweliad.Er y rhagwelir y bydd y rhan fwyaf o ymweliadau ail-sgorio yn arwain at well sgôr, mae’n bosibl y byddwch yn cael sgôr is os yw’r safonau wedi gostwng. Bydd tâl yn cael ei godi am yr ymweliad ail-sgorio a bydd rhagor o fanylion am y costau yn cael eu darparu gan yr awdurdod lleol cyn yr arolygiad.

CSHB Ffurflen Ail-sgorio 

Hawl i Ymateb

Mae gan fusnesau ‘Hawl i Ymateb’. Mae’r hawl hwn yn galluogi gweithredwr busnes bwyd i gyflwyno sylwadau ar y sgôr a roddwyd i’r busnes. Er enghraifft, efallai bod busnes yn dymuno cyhoeddi gwybodaeth am unrhyw amgylchiadau anarferol a oedd ar waith yn ystod yr arolygiad a effeithiodd ar y sgôr yn eu barn nhw. Mae’n rhaid cyflwyno’r sylwadau hyn yn ysgrifenedig yn y ffurflen Hawl i Ymateb safonol. Dylid anfon y ffurflen at yr awdurdod lleol a fydd yn ei hanfon ymlaen i’r Asiantaeth Safonau Bwyd. Yna, efallai bydd yr Asiantaeth yn cyhoeddi’r sylwadau ar ei gwefan, ochr yn ochr â’r sgôr.

CSHB Ffurflen Hawl i Ymateb 

Rhagor o wybodaeth

Cyngor Sir y Fflint,
Adran Diogelwch Bwyd,
Cyfarwyddiaeth yr Amgylchedd,
Neuadd y Sir,
Yr Wyddgrug,
Sir y Fflint  
CH7 6NF

Ffôn: 01352 703386