Alert Section

Cyngor ynghylch paratoi tendrau


Rydym yn cynnig cyngor arbenigol ar bob agwedd sy’n ymwneud â pharatoi tendrau gan gynnwys:

  • cyngor un i un ar lunio tendrau
  • gweithdai ‘Sut i Baratoi Tendrau’
  • cyngor ynghylch sut i fynd at brynwyr yn y sector cyhoeddus
  • cymorth i adolygu polisïau busnes er mwyn sicrhau bod unrhyw gais a gyflwynir yn un cystadleuol
  • cysylltiadau rhagorol â swyddogion caffael ledled gogledd Cymru
  • cymorth i adolygu’ch ceisiadau a chyngor agored a diduedd ynghylch beth i’w wneud nesaf.

Gallwn roi gwybodaeth gyfredol ichi am y farchnad leol a chyngor ymarferol ynghylch ble i chwilio am rybuddion ynghylch tendrau a chyfleoedd tendro sy’n iawn i’ch busnes chi. At hynny, gallwn roi awgrymiadau ynghylch sut y gallwch sicrhau bod eich busnes yn barod i baratoi tendrau. 

Cysylltwch â ni os hoffech gael mwy o wybodaeth:

E-bost: BusDev@siryfflint.gov.uk