Alert Section

Cyllido eich busnes


Mae sicrhau bod y cyllid iawn gennych yn hanfodol wrth ddatblygu eich busnes.

Os hoffech drafod eich amgylchiadau busnes unigol yn gyfrinachol, cysylltwch â’r Tîm Datblygu Busnes.

E-bost: BusDev@siryfflint.gov.uk

I gael mwy o wybodaeth am gymorth â chyllid, cysylltwch â:

Busnes Cymru (ffenestr newydd)

Banc Datblygu Cymru (ffenestr newydd)

Cyllid i unigolion a busnesau

Pecyn cymorth yw ReAct i helpu pobl sydd wedi colli eu swydd i ddychwelyd i waith cyn gynted ag sy’n bosibl.

Mae’r holl gyllid dan ReAct yn ddewisol ac mae amodau a meini prawf cymhwysedd ynghlwm wrtho.

ReAct 

Dod o hyd i bobl dda gyda’r sgiliau cywir yw’r allwedd i lwyddiant i unrhyw fusnes.

Trwy recriwtio rhywun sydd wedi cael ei ddiswyddo, neu sydd wedi dod yn ddi-waith am reswm arall, gallwch elwa o'r rhaglen cymorth diswyddo ReAct.  Gall ReAct eich helpu i dalu eu cyflogau ac ariannu hyfforddiant sy'n gysylltiedig â swydd i hogi sgiliau.  Felly rydych chi'n cael y person iawn ar gyfer y swydd - ac yn lleihau eich costau
staff.

https://businesswales.gov.wales/skillsgateway/cy/rhaglenni-sgiliau-hyfforddiant/react